Mae nifer o enwogion wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cefnogi’r brotest a fydd yn cael ei chynnal yn Washington gan y disgyblion hynny a oroesodd yr ymosodiad yn Fflorida ganol yr wythnos ddiwethaf.

Wrth siarad ar raglen newyddion CNN, fe gyhoeddodd un o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas eu bod nhw am gynnal protest er mwyn pwyso ar wleidyddion i gymryd camau yn erbyn trais sy’n deillio o ddefnyddio gynnau.

“Y rheswm ryn ni’n cynnal yr ymgyrch, ‘Cerdded er mwyn ein bywydau’, ac yn gwneud hynny ar Fawrth 24, yw oherwydd ry’n ni wedi clywed tipyn am y ffaith nad nawr yw’r amser i drafod rheoleiddio’r defnydd o ynnau, ac ry’n ni’n parchu hynny,” meddai Cameron Kasky.

“Ond dyma’r amser i drafod y mater: Mawrth 24.”

Y sêr yn cefnogi

Yn y cyfamser, mae nifer o enwogion wedi ymateb i’r cyhoeddiad hwn, gan gynnwys y canwr pop, Justin Bieber, a ddywedodd ar Twitter ei fod yn “sefyll ochr yn ochr” a’r disgyblion, a bod eu dewrder yn “anhygoel”.

Dywedodd yr actor Mark Hamill, wedyn, gan gyfeirio at Donald Trump, fod yr ymgyrch hon yn dangos “plant sy’n ymddwyn fel arweinwyr, tra bod ein harweinydd yn ymddwyn fel plentyn.”

Fe fu farw 17 o bobol yn yr ymosodiad yn Fflorida ddydd Mercher diwethaf, ar ôl i’r cyn-ddisgybl, Nikolas Cruz, ymosod ar ddisgyblion yr ysgol gyda gwn.