Mae 66 o bobol, gan gynnwys chwech aelod o staff, wedi cael eu lladd ar ôl i awyren blymio i’r ddaear yn Iran.

Roedd yr awyren Aseman Airlines ar ei ffordd o Tehran i Yasuj, yn ôl adroddiadau yn y wlad.

Bu farw pawb oedd ar yr awyren ar ôl iddi blymio i’r ddaear mewn ardal fynyddig ger tref Semirom. Mae lle i gredu bod niwl yn yr ardal ar y pryd.

Mae’r cwmni’n adnabyddus am deithiau byrion o fewn y wlad, ond mae gwrthdrawiadau’n digwydd yn gyson yn y wlad erbyn hyn.

Mae ymchwiliad ar y gweill.