Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi beirniadu’r FBI am eu diffyg ymateb i bryderon am y dyn oedd wedi saethu 17 o bobol yn farw mewn ysgol yn Fflorida.

Dywedodd fod yr asiantaeth “wedi methu” nifer o awgrymiadau gan y saethwr ei fod e’n bwriadu lladd, ac mae e wedi dweud eu bod nhw’n “treulio gormod o amser yn ceisio profi rhan Rwsia yn ymgyrch Trump”.

Dywedodd ar ei dudalen Twitter fod y sefyllfa’n “annerbyniol”, cyn ychwanegol “ewch yn ôl at y pethau sylfaenol”.

Mae lle i gredu bod yr FBI wedi cael gwybod fis diwethaf fod y dyn yn “awyddus i ladd” a bod ganddo fynediad at ddryll ac yn cynllwynio ymosodiad.

Ond wnaethon nhw ddim ymchwilio i’r honiadau, yn ôl adroddiadau. Maen nhw wedi gwadu nad oedden nhw wedi ymdrin â’r sefyllfa yn y modd priodol.

Fe fu cryn bwysau ers hynny ar i Gyfarwyddwr yr FBI, Christopher Wray ymddiswyddo.