Mae llys ym Mhacistan wedi dedfrydu dyn i farwolaeth am lofruddio wyth o blant, gan gynnwys merch saith oed a gafodd ei threisio.

Roedd Mohammad Imran yn y llys yn ninas Kansur i glywed ei dynged ar ôl pledio’n euog.

Cafodd ei arestio fis diwethaf, bythefnos ar ôl iddo dreisio a llofruddio Zainab Ansari, saith oed, a thaflu ei chorff i ganol tomen sbwriel.

Fe allai Mohammad Imran apelio yn erbyn y ddedfryd, ond fydd e’n methu apelio yn erbyn ei gollfarn gan iddo gyfaddef ei droseddau.

Ar ôl cael ei arestio y clywodd yr heddlu am y saith llofruddiaeth arall.