Mae chwe newyddiadurwr a oedd wedi’u cyhuddo o geisio disodli Llywodraeth Twrci yn 2016, wedi’u dedfrydu i oes o garchar gan lys yn y wlad.

Yn ôl y cyfyngau yn Nhwrci, ymhlith y rheiny sydd wedi’u dedfrydu mae Ahmet Altan, cyn-olygydd y papur newydd, Taraf; ei frawd, y newyddiadurwr a’r academydd, Mehmet Altan; a’r newyddiadurwr, Nazli Ilicak.

Mae’r awdurdodau yn Nhwrci yn credu bod gan y newyddiadurwyr hyn gysylltiadau â’r clerigwr Mwslemaidd sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, Fethullah Gulen, sy’n cael ei gyhuddo gan Dwrci o geisio disodli’r llywodraeth ym mis Mehefin 2016 – er ei fod ef yn gwadu hynny.

Mae’r chwe newyddiadurwr wedi’u cael yn euog o geisio gweithredu yn erbyn cyfansoddiad Twrci, ac o fod yn aelodau o sefydliad brawychol.