Fe fydd newyddiadurwr o’r Almaen, sydd wedi bod yn y carchar yn Nhwrci am gyfnod o flwyddyn, yn cael ei ryddhau.

Fe gafodd y newyddion y byddai Deniz Yecel yn cael ryddhau o’r ddalfa ei gyhoeddi yn un o bapurau dyddiol yr Almaen, Die Welt, lle’r oedd yn gweithio.

Roedd Deniz Yucel, sy’n ddinesydd yr Almaen a Thwrci, wedi’i ddwyn i’r ddalfa fis Chwerfor y llynedd, ar gyhuddiad o ledaenu propoganda a oedd yn cefnogi brawychiaeth.

Mae’r achos yn ei erbyn ef a chwe dinasydd arall o’r Almaen wedi suro’r berthynas rhwng yr Almaen a Thwrci, gyda’r cyntaf yn dweud bod Twrci wedi cymryd y camau hyn oherwydd rhesymau gwleidyddol.