Mae pennaeth rhyngwladol elusen Oxfam wedi dweud y bydd yn penodi comisiwn annibynnol er mwyn ymchwilio i honiadau o ecsbloetio rhywiol.

Yn ôl y Cyfarwyddwr Gweithredol, Winnie Byanyima, bydd y comisiwn yn “edrych ar ddiwylliant a gweithredoedd” yr elusen, ac yn ei helpu i fod “yn well wrth amddiffyn pobol”.

Mae hefyd wedi addo sicrhau cyfiawnder i unrhyw un sydd wedi eu cam-drin gan staff yr elusen, ac wedi erfyn arnyn nhw i rannu eu profiadau â’r comisiwn.

Ymddiheuro

Ar gyfweliad gyda’r BBC, roedd Winnie Byanyima yn ymddiheuro am fod gweithwyr Oxfam wedi ymweld â phuteiniaid wrth weithio yn Haiti yn 2011.

Fe ddywedodd fod staff y mudiad hefyd yn “brifo” oherwydd y sgandal.

Mae’r Comisiwn Elusennau eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymchwilio i waith yr elusen, ac mae disgwyl y byddan nhw hefyd yn ystyried honiadau cynharach yn Chad a Liberia.