Mae heddlu De Affrica wedi cynnal cyrch ar eiddo teulu sy’n cael eu cysylltu gyda honiadau llygredd yn erbyn Arlywydd y wlad.

Daw’r gweithredu gan yr heddlu ychydig oriau ar ôl i blaid y llywodraeth, yr ANC, roi gorchymyn i’r Arlywydd Jacob Zuma fod rhaid iddo adael y swydd.

Mae’n debyg mai adran arbenigol o’r heddlu sydd wedi mynd i gartref a chompownd y teulu Gupta ar gyrion dinas Johannesburg.

Maen nhw wedi cael eu cysylltu gyda nifer mawr o honiadau llygredd sydd wedi eu gwneud yn erbyn Jacob Zuma ynghylch cytundebau llywodraeth.

Y disgwyl yw mai Llywydd yr ANC, Cyril Ramaphosa, fydd yn cymryd ei le er fod arwyddion y gallai’r Arlywydd wrthod mynd.