Mae pobol Tonga yn ardal y Môr Tawel yn clirio llanast heddiw, wedi i seiclon daro’r ynys a dinistrio Senedd y wlad yn ogystal â chartrefi ac eglwysi.

Mae’r gwynt nerthol, sydd wedi’i enwi’n Seiclon Gita, bellach ar ei ffordd i gyfeiriad Ffiji, gyda hyrddiadau o tua 120 milltir yr awr.

Mae tua 5,000 o bobol wedi bod yn cysgodi mewn canolfannau yn y brifddinas, Nuku’alofa, dros nos. Does yna ddim adroddiadau am yr un farwolaeth hyd yn hyn, nac o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae’r rhagolygon yn rhybuddio y bydd y gwynt mawr yn taro Ffiji nos Fawrth (Chwefror 13) er bod disgwyl iddo osgoi prif ddinasoedd poblog yr ynys, yn cynnwys y brifddinas, Suva.