Mae arweinydd Gogledd Corea wedi ymateb yn ddiolchgar yn sgil ymweliad ei chwaer â De Corea.

Yn ôl newyddion gwladol y Gogledd, mae Kim Jong Un yn diolch i’r De am ei “hymdrechion didwyll” ac wedi galw am barhad i’r ddeialog rhwng y ddwy wlad.

Ymwelodd chwaer yr arweinydd, Kim Yo Jong, â De Corea tra’r oedd Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal yno.

Yn ystod ei hymweliad, fe estynnodd wahoddiad i arlywydd De Corea, Moon Jae-in, i ymweld â’r Gogledd yn y “dyfodol agos”.

Mae Moon Jae-in wedi cyfleu awydd i gwrdd â Kim Jong Un, ond hefyd am weld y Gogledd yn adfer deialog â’r Unol Daleithiau.

Bellach, mae’r Unol Daleithiau wedi datgan parodrwydd i gynnal trafodaethau diamod â Gogledd Corea.