Fe fydd plaid yr ANC yn cyfarfod yn Ne Affrica heddiw i drafod dyfodol yr Arlywydd Jacob Zuma, ac yn cyfaddef fod “diffyg amynedd” ymhlith aelodau ynghylch y sefyllfa.

Dywedodd Cyril Ramaphosa, arweinydd y blaid a Dirprwy Arlywydd De Affrica, mewn digwyddiad i nodi canmlwyddiant geni Nelson Mandela, fod rhaid trin y sefyllfa â “gofal a phwrpas”.

Wrth annerch torf yn y digwyddiad ddydd Sul, dywedodd ei fod yn “gwybod eich bod yn dymuno i’r mater gael ei ddatrys”.

Mae Jacob Zuma yn wynebu cyhuddiadau o lygredd yn dilyn ei naw mlynedd wrth y llyw, ac mae disgwyl i’r blaid ofyn iddo gamu o’r neilltu. Y disgwyl wedyn yw y bydd Cyril Ramaphosa yn ei olynu.

Roedd disgwyl i’r blaid gyfarfod yr wythnos ddiwethaf, ond cafodd y cyfarfod hwnnw ei ohirio.

Uno De Affrica

Dywedodd Cyril Ramaphosa mai diben y trafodaethau heddiw yw uno trigolion De Affrica, gan ychwanegu bod y digwyddiad i nodi canmlwyddiant geni Nelson Mandela yn “cynnig dechreuad newydd”.

Galwodd ar y dorf i “adfer y gwerthoedd y gwnaeth Mr Mandela sefyll drostyn nhw”.

Mae pryderon ar hyn o bryd hefyd fod prinder dŵr yn ninas Cape Town, gyda thrigolion wedi’u cyfyngu i ddefnyddio 50 litr bob dydd.