Mae chwaer Kim Jong Un ac uwch swyddogion eraill o Ogledd Corea wedi teithio i’r De ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyongchang.

Kim Yo Jung yw aelod cyntaf y teulu sydd mewn grym yng Ngogledd Corea i ymweld â’r De ers rhyfel Corea yn 1950-53.

Mae disgwyl iddi hi, ynghyd â phennaeth y wladwriaeth mewn enw, Kim Yong Nam, sy’n 90 oed, gwrdd ag Arlywydd De Corea, Moon Jae-in dydd Sadwrn mewn cinio yn ei balas arlywyddol.

Mae’r ddirprwyaeth o Ogledd Corea, yn y De am dri diwrnod, gyda Moon Jae-in, yn gweld y gemau fel cyfle i adeiladu pontydd rhwng y ddwy wlad.

Ond mae rhai yn amau bod Gogledd Corea, sy’n annhebygol o roi’r gorau i brofi arfau niwclear, yn defnyddio’r Gemau Olympaidd i brocio tyllau yn y sancsiynau rhyngwladol yn erbyn y wlad a phrynu amser i ddatblygu mwy o arfau.

Mae dyfalu yn Ne Corea os bydd Kim Jong Un yn anfon neges bersonol i Moon Jae-in drwy ei chwaer, ac os byddai hynny’n cynnwys cynnig i gynnal cyfarfod rhwng y ddau arweinydd.

Mae Kim Yo Jung yn cael ei hystyried yn un o’r ychydig bobol sydd wedi ennill ymddiriedaeth lawn ei brawd.