Mae disgwyl i Arlywydd De Corea, Moon Jae-in, gyfarfod â chwaer Kim Jong Un ac uwch swyddogion eraill sy’n mynd i’r De dydd Gwener ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang.

Dywedodd llefarydd ar ran Moon Jae-in y byddai cynrychiolwyr o Ogledd Corea yn mynd i seremoni agoriadol y Gemau nos Wener.

Ychwanegodd y byddai’r Arlywydd yn cynnal cinio i gynrychiolwyr o Ogledd Corea dydd Sadwrn.

Kim Yo Jung fyddai’r aelod cyntaf o’r teulu sydd mewn grym yng Ngogledd Corea i ymweld â’r De ers rhyfel Corea yn 1950-53.