Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo aelodau o’r blaid Ddemocrataidd o fod yn fradwyr, wedi iddyn nhw beidio â chymeradwyo yn ystod ei araith ar Gyflwr yr Undeb.

Roedd agwedd lugoer ei wrthwynebwyr yr wythnos ddiwethaf yn “an-Americanaidd”, meddai, wrth iddyn nhw fethu â chydnabod y cynnydd yn yr economi, hyd yn oed.

“Allwn ni ei alw fo’n deyrnfradwriaeth?” meddai. “Pam ddim? Dydyn nhw ddim i weld yn caru ein gwlad gymaint â hynny.”

 

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod araith mewn ffatri yn Ohio, gan ymfalchïo yn y ffaith bod economi America yn gweld cynnydd, a bod trethi wedi’u torri.