Dydy’r dyn sy’n cael ei amau o saethu ffoaduriaid Affricanaidd yn farw yn yr Eidal “ddim yn edifar”, yn ôl yr heddlu.

Mae Luca Traini, cefnogwr yr asgell dde eithafol, wedi’i amau o dargedu pobol ar hap am ddwy awr ddoe.

Cafodd chwech o bobol eu hanafu, a phob un yn ffoadur Affricanaidd.

Mae lle i gredu ei fod yn ymateb i achos arall, lle cafodd dyn o Nigeria ei arestio ar amheuaeth o lofruddio merch yn ei harddegau rai dyddiau’n ôl.

Ond does dim cyswllt rhyngddo fe a Pamela Mastropietro, yn ôl yr heddlu.

Mae Luca Traini yn y carchar wrth i’r ymchwiliad barhau.