Fe fydd y sioe chwaraeon fwyaf yn y byd yn cael ei chynnal heno wrth i dimau pêl-droed Americanaidd y Philadelphia Eagles herio’r New England Patriots am dlws y SuperBowl.

Y gêm hon yw uchafbwynt y tymor yn yr Unol Daleithiau, a’r gêm ym Minneapolis yw’r 52fed gêm i’w chynnal. Bydd y timau’n cystadlu am dlws Vince Lombardi.

Bydd y gic gyntaf am 11.30pm, a’r cyfan yn fyw ar y BBC a SKY.

Adloniant

Mae’r achlysur yr un mor enwog am yr adloniant ag ydyw am y gêm ei hun ac eleni, fe fydd Justin Timberlake yn perfformio am y trydydd tro yn ystod yr egwyl, gan dorri’r record am y nifer o ymddangosiadau.

Pink fydd yn canu’r anthem genedlaethol cyn y gêm.

Y llynedd, fe wyliodd mwy na 150 miliwn o bobol yr adloniant.

Dau dlws o’r bron?

Bydd y New England Patriots yn mynd am ail fuddugoliaeth o’r bron heno wrth iddyn nhw herio’r Philadelphia Eagles sy’n ymddangos yn y SuperBowl am y tro cyntaf ers 2005. Y Patriots oedd yn fuddugol bryd hynny.

Yr Eagles oedd pencampwyr yr NFC eleni, gan sicrhau eu lle yn y SuperBowl. Ond dyma’r trydydd tro mewn pedair blynedd i’r Patriots gyrraedd y gêm fawr.

Byddan nhw’n ceisio efelychu’r record am y nifer o dlysau SuperBowl pe baen nhw’n ennill heno am y chweched tro.