Mae cannoedd o weithwyr a aeth yn sownd dan ddaear wrth gloddio am aur yn Ne Affrica ddoe, bellach wedi cael eu hachub.

Bu tua 900 o weithwyr yn sownd ym mwynglawdd Beatrix yng nghanolbarth y wlad am dros 24 awr ar ôl i lifft roi’r gorau i weithio ar ôl storm o fellt a tharanau.

Yn ystod y cyfnod dan ddaear, cafodd dŵr a bwyd eu cludo i’r gweithwyr wrth iddyn nhw ddisgwyl i’r trydan ddychwelyd fel bod modd i’r lifft weithio eto.

Mae’r cwmni sy’n rheoli’r mwynglawdd, Sibayne-Stillwater, wedi dweud y bydd y gweithwyr yn derbyn profion meddygol a therapi, ac mae disgwyl i’r gwaith o gloddio am aur ailddechrau ddydd Llun.

Ond, mae undebau llafur ac eraill wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffaith nad oedd cynllun wrthgefn gan y cwmni i achub y gweithwyr, a bod y digwyddiad hwn yn adlewyrchu’r problemau sy’n bodoli yn y wlad o ran iechyd a diogelwch gweithwyr.