Mae cannoedd o gloddwyr yn sownd dan ddaear mewn mwynglawdd aur yn Ne Affrica, wedi i lifft i fyny ac i lawr o’r siafft roi’r gorau i weithio yn ystod storm fellt a tharanau.

Mae asiantaeth newyddion leol yn adrodd fod y gweithwyr yn saff, a’u bod yn aros i weithwyr achub ddod i’w cludo allan o waith Beatrix yn nhalaith y Free State.

Mae cydweithwyr y rheiny sy’n sownd dan ddaear wedi bod yn ceisio cael bwyd a diod atyn nhw.