Cydraddoldeb i fenywod a brwydro aflonyddu rhywiol oedd prif themâu gwobrau’r Grammy’s nos Sul (Ionawr 28).

Yn ystod y seremoni yn Efrog Newydd bu sawl seren yn areithio ar y pwnc, gan gynnwys  y gantores Janelle Monae, wnaeth herio “camddefnydd pŵer”.

Roedd sawl cerddor yn gwisgo rhosyn gwyn – symbol yn erbyn aflonyddu rhywiol – a gwnaeth yr actores Kesha berfformio ei chân ‘Praying’ sy’n mynd i’r afael a’i phrofiadau o gamdriniaeth.

Er hyn i gyd, dim ond un ddynes wnaeth ennill gwobr yn y seremoni sef y gantores Alessia Cara – derbyniodd y wobr ‘Artist Newydd Gorau’.

Bu i’r cerddor Bruno Mars ennill chwe gwobr, gyda’r rapiwr Kendrick Lamar yn derbyn pump. Er i’r rapiwr Jay-Z gael ei enwebu mewn wyth categori gadawodd y seremoni yn waglaw.