Mae cyn-Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont wedi dweud ei fod yn bwriadu ceisio caniatâd gan lys yn Sbaen i fynychu dadl seneddol yn Barcelona ddydd Mawrth.

Mae’n fwriad ganddo ffurfio llywodraeth, er ei fod yn alltud ar hyn o bryd. Daw ei benderfyniad ar ôl i lys ddyfarnu bod rhaid iddo fod yn bresennol er mwyn cael ei ystyried ar gyfer etholiadau.

Aeth Carles Puigdemont i Wlad Belg yn dilyn refferendwm annibyniaeth Catalwnia ar Hydref 27, wrth i Sbaen ddadlau bod ei gynnal yn weithred yn erbyn Cyfansoddiad Sbaen.

Mae’n wynebu cyhuddiadau o wrthryfela ac o annog gwrthryfel, ac mae’n debygol o gael ei arestio pe bai’n dychwelyd o Frwsel.

Roedd lle i gredu cyn y dyfarniad y byddai’n annerch y Senedd drwy gyswllt fideo. Ond hyd yn oed pe bai’n bresennol, fe fyddai’n rhaid ei fod wedi cael caniatâd barnwr ymlaen llaw.

Pleidiau o blaid annibyniaeth

Mae plaid Carles Puigdemont yn mynnu mai fe yw’r unig ymgeisydd addas i fod yn Arlywydd, ond mae’n hollti barn y blaid arall.

Mae gobaith y bydd llywodraeth newydd mewn grym erbyn dydd Mercher er mwyn osgoi cynnal etholiad o’r newydd.

Dywedodd Joan Tarda ei fod yn barod i “aberthu” Carles Puigdemont yn enw annibyniaeth.

Mae gan bleidiau o blaid annibyniaeth fwyafrif bach ar hyn o bryd ac mae polau’n dangos yn gyson fod trigolion Catalwnia o blaid dewis eu tynged eu hunain, ond eu bod yn rhanedig ar fater annibyniaeth.