Mae bomiau ceir wedi lladd 27 o bobol, ac anafu mwy na 30 arall, y tu allan i fosg yn ninas Benghazi yn nwyrain Libya.

Fe ffrwydrodd y ddyfais gyntaf tua 8.20yb ddydd Mawrth, ac yna fe glywyd ffrwydriad arall hanner awr yn ddiweddarch, wrth i’r ail ddyfais danio.

Does yr un grwp eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn yr ardal boblog, wrth i weddïwyr ddod allan o’r mosg.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mynd ar wefan gymdeithasol Twitter i gondemnio’r ymosodiad, gan ddweud fod ymosod yn ddirybudd ar bobol gyffredin yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol, a’i fod yn gyfystyr â throsedd ryfel.