Mae arweinydd Uganda yn dweud ei fod yn dwlu ar Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, am ei fod yn dweud ei ddweud yn blwmp ac yn blaen.

“Dw i’n dwlu ar Trump gan ei fod yn siarad â phobol Affrica yn ddi-flewyn ar dafod,” meddai arlywydd Uganda, Yoweri Museveni.

Daw ei sylwadau yn sgil ffrae am honiadau bod Donald Trump wedi cyfeirio at wledydd Affrica mewn modd sarhaus yn ystod cyfarfod preifat.

“Dw i ddim yn gwybod os cafodd ei gamddyfynnu neu beidio. Ond mae’n siarad am bobol Affrica yn ddidwyll,” meddai Yoweri Museveni wedyn.

“Yn y byd yma, allwch chi ddim goroesi trwy fod yn wan.”

Mae sawl gwlad Affricanaidd wedi condemnio sylwadau Donald Trump, tra bod yr arlywydd yn gwrthod honiadau yn ei erbyn.