Mae beth bynnag naw o bobol wedi’u hanafu wedi i losgfynydd ffrwydro ger canolfan sgïo yng nghanolbarth Siapan.

Roedd y rhan fwya’ o’r rhai sydd wedi’u hanafu ar y llethrau ger tref Jusatsu ar y pryd.

Mae pump o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty ar ôl torri esgyrn, ond dyw’r anafiadau ddim yn cael eu hystyried yn rhai difrifol.

Mae swyddfa dywydd Siapan yn dweud i fynydd Kusatsu-Shirane ffrwydro tua 10 o’r gloch fore Mawrth (Ionawr 23).