Mae llefarydd senedd Catalwnia wedi cynnig y cyn-Arlywydd, Carles Puigdemont, fel ymgeisydd i ffurfio llywodraeth, er gwaetha’r ffaith ei fod yn alltud o’r wlad.

Dim ond y bore yma hefyd y daeth y newyddion fod gwarant wedi’i gyhoeddi gan awdurdodau Sbaen i arestio’r cyn-Arlywydd, wrth iddo adael ei loches yng Ngwlad Belg a mynd i Ddenmarc.

Mae Carles Puigdemont yno er mwyn ymweld â Phrifysgol Copenhagen lle mae’n annerch cynulleidfa a chyfarfod â gwleidyddion y wlad.

Ond mewn cyfarfod o’r senedd yng Nghatalwnia heddiw, dywedodd y Llefarydd, Roger Torrent, mai Carles Puigdemont yw’r unig ymgeisydd sydd â digon o gefnogaeth yn y senedd i ffurfio llywodraeth yn dilyn etholiadau rhanbarthol ddiwedd y llynedd.

Ychwanegodd hefyd ei fod eisoes wedi gofyn i Brif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, am gyfarfod er mwyn trafod y “sefyllfa anghyffredin hon” sy’n bod yng Nghatalwnia ar hyn o bryd.