Mae Almaenes, sy’n hanu o Foroco, wedi cael ei dedfrydu i farwolaeth gan lys yn Irac am iddi ymuno â Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Roedd y ddynes wedi cyfaddef iddi ymuno â Daesh ar ôl teithio o’r Almaen i Syria ac yna i Irac gyda’i dwy ferch.

Mae’r ddwy ferch bellach yn briod ag aelodau Daesh.

Cafwyd y ddynes yn euog o gynnig cymorth i dorri’r gyfraith ac o gymryd rhan mewn ymosodiadau ar yr awdurdodau.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.