Does dim cytundeb o hyd rhwng y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid yn yr Unol Daleithiau, wrth iddyn nhw barhau i ffraeo tros fewnfudo a gwariant.

Mae nifer o asiantaethau’r wlad ynghau ar hyn o bryd am nad yw’r ddwy blaid yn gallu cytuno ar y ffordd ymlaen.

Daw’r anghydweld flwyddyn union ers i’r Arlywydd Donald Trump ddod i rym – ac fe ddywedodd fod y Democratiaid “eisiau rhoi anrheg neis” iddo fe ar ddechrau ei ail flwyddyn wrth y llyw.

Mae Gweriniaethwyr y Tŷ yn Capitol Hill yn gwrthod cynnal trafodaethau tra bod y llywodraeth wedi dod i stop.

Mae Democratiaid y Senedd wedi sarhau’r Gweriniaethwyr drwy wrthod mesur a fyddai wedi sicrhau bod asiantaethau’r llywodraeth yn cael parhau â’u gwaith am bedair wythnos tra bod y trafodaethau’n mynd yn eu blaen. Yn hytrach, roedd y Democratiaid yn fodlon i’r drefn bresennol barhau am ychydig ddyddiau’n unig.

Mewnfudwyr

Mae’r Democratiaid yn awyddus i weld cytundeb tros 700,000 o fewnfudwyr oedd wedi mynd i’r Unol Daleithiau’n blant.

Ond mae’r Democratiaid wedi cyhuddo Donald Trump a’r Gweriniaethwyr o gefnu ar gytundeb ddydd Gwener, gan gyhuddo Donald Trump o fod yn ddyn anodd i drafod â fe.

Maen nhw’n gwrthod derbyn cytundeb sy’n cael ei gynnig lle byddai hawliau’r mewnfudwyr yn dod i ben ym mis Mawrth.

Ond mae’r Gweriniaethwyr yn gwrthod trafod ymhellach tra bod gwaith eu hasiantaethau wedi dod i ben.

Mae disgwyl i waith iechyd a’r gwasanaethau brys barhau’n ddi-dâl am y tro.