Mae ymwelwyr sydd ar wyliau mewn rhan boblogaidd o’r Caribî yn cael eu hannog i aros yn eu cyrchfannau wrth i’r fyddin geisio mynd i’r afael â throseddu treisgar.

Mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio Prydeinwyr fod stad o argyfwng mewn grym yn Montego Bay yn Jamaica ers dydd Iau.

Dylai ymwelwyr osgoi mynd y tu allan i’r cyrchfannau lle maen nhw’n aros, yn enwedig yn y nos, gan ddefnyddio trafnidiaeth sydd wedi ei drefnu gan y gwestyau yn unig wrth adael a chyrraedd.

Cafodd 335 o lofruddiaethau eu cofnodi ym mhlwyf St James yn Montego Bay yn 2017, a hynny’n bennaf o ganlyniad i’r nifer helaeth o gangiau yn yr ardal.

Dywed prif weinidog Jamaica, Andrew Holness, fod y llywodraeth wedi bod yn trefnu cyrch milwrol yn erbyn y gangiau er peth amser, a bod y mesurau’n cael eu cefnogi gan y diwydiant twristiaeth lleol.