Fe fydd Theresa May yn cyfarfod Donald Trump yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, y Swistir, yr wythnos nesaf.
Fe fydd y Prif Weinidog a’r Arlywydd yn cynnal cyfarfod ymylol â’i gilydd ar gyrion yr uwch-gynhadledd fyd-eang.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl adroddiadau y byddai Donald Trump yn anwybyddu’r Prif Weinidog yn yr uwch-gynhadledd ac yn canolbwyntio ar gyfarfod arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, yn ei lle.
Donald Trump yw’r cyntaf o arlywyddion America ers Bill Clinton yn 2000 i ymweld â’r uwch-gynhadledd, ac mae disgwyl iddo’i defnyddio i hyrwyddo ei strategaeth America First.