Mae ymladdwyr wrthi’n ceisio diffodd tân eang i’r gogledd o Borth Madryn, Patagonia.

Mae negeseuon ar wefan gymdeithasol Facebook yn dangos sut y mae mwg trwchus yn ei gwneud hi’n anodd i weld hyd a lled y dinistr yn ardal La Pampa, ac mae nifer yn tynnu sylw yn eu sylwadau at ddiffyg buddsoddi gan lywodraeth yr Ariannin yn y gwasanaeth tân.

“Pam nad ydyn nhw’n defnyddio hofrenyddion i daflu dwr am ben y fflamau?” meddai un sylw yn Sbaeneg.

Dyma sut mae ‘MadrynAhora’ ar Facebook yn dangos yr hyn sy’n digwydd…

#FuegoEnMadryn así está ahora el incendio al norte de #Madryn

Posted by MadrynAhora on Wednesday, 17 January 2018