Mae arlywydd Zimbabwe wedi cyhoeddi y bydd etholiad yn cael ei gynnal ym mis Mai neu Fehefin, wrth iddo ddod dan bwysau o bob cwr o’r byd i roi’r cyfle i bobol ei ethol yn deg.

Fe ddaeth Emmerson Mnangagwa i rym wedi i Robert Mugabe gael ei symud o’r swydd ym mis Tachwedd.

Mae’r Herald, papur y wladwriaeth, heddiw’n dyfynnu Emmerson Mnangagwa tra ar ymweliad â Mozambique yn dweud y bydd “Zimbabwe yn mynd am etholiad ymhen rhyw bedwar neu bum mis”.

Roedd wedi awgrymu cyn hyn y gallai’r etholiad gael ei gynnal ynghynt.