Mae 52 o bobol wedi cael eu lladd yn Kazakhstan, ar ôl i fws fynd ar dân.

Yn ôl adran llywodraeth y wlad sy’n delio ag argyfyngau, fe digwyddodd y digwyddiad yn rhanbarth Aklobe yng ngogledd y wlad.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cadarnhau bod pump allan o’r 57 a oedd yn teithio ar y bws wedi goroesi, ac yn cael eu trin am anafiadau.

Roedd rhai o’r teithwyr a gafodd eu lladd yn ddinasyddion y wlad drws nesaf, Uzbekistan.