Mae’r gwasanaethau achub wedi adfer cyrff dau berson o rwbel tri thŷ cyfagos yng ngogledd gwlad Belg, yn dilyn ffrwydrad ddoe.
Mae 14 o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu hanafu yn y ffrwydrad yn Antwerp hwyr brynhawn Llun, gan gynnwys saith a gafodd eu hachu o’r rwbel.
Cafwyd hyd i’r ddau gorff diweddaraf fore Mawrth, ac mae o leiaf un adeilad wedi dymchwel yn llwyr.
Cyhoeddodd heddlu Antwerp nad oedd y ffrwydrad yn rhan o ymosodiad brawychol.