Mae bron i 15,000 o bobol wedi ffoi o bentrefi o gwmpas y llosgfynydd yn y Philipinau, wrth i lafa lifo i lawr ei grater, a allai ennyn ffrwydrad.

Mae’r rhybudd ar gyfer llosgfynydd Mayon wedi codi i dri ar raddfa o bump, gan nodi posibilrwydd cynyddol o erydiad peryglus “o fewn wythnosau neu ddyddiau, hyd yn oed”.

Dywedodd swyddogion wrth ymateb i’r trychineb fod mwy na 14,700 o bobol wedi’u symud o ardaloedd risg uchel mewn tair dinas a phedair tref a’u bod yn parhau i symud pobol.

Mae awyrennau wedi cael eu rhybuddio i beidio â hedfan yn agos at y llosgfynydd.