Mae o leiaf 38 o bobol wedi’u lladd mewn ymosodiad yng nghanol Baghdad, yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth Irac.

Yn ôl adroddiadau roedd dau hunan-fomiwr wedi cynnal yr ymosodiad yn Sgwâr Tayran yn y ddinas yn ystod un o’r cyfnodau prysuraf fore Llun.

Cafodd o leiaf 105 o bobol hefyd eu hanafu yn y ffrwydradau, meddai’r llefarydd.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn, ond mae lle i gredu mai’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) sy’n gyfrifol.

Mae nifer yr ymosodiadau wedi gostwng yn sylweddol yn Baghdad a rhannau eraill o Irac ers i luoedd diogelwch y wlad ailfeddianu’r tiriogaethau oedd ym meddiant IS.