Mae cynnyrch llaeth i fabanod wedi cael ei alw’n ôl mewn 83 o wledydd erbyn hyn, yn dilyn pryderon am salmonela.

Dywedodd llywydd cwmni Lactalis o Ffrainc wrth bapur newydd Le Journal du Dimanche fod mwy na 12 miliwn o focsys o’r llaeth wedi’u heffeithio.

Daw’r holl gynnyrch o ffatri’r cwmni yn Craon yng ngogledd-orllewin Ffrainc, lle daethpwyd o hyd i’r salmonela fis diwethaf.

Cafodd 35 o fabanod ddiagnosis o salmonela yn Ffrainc, un yn Sbaen ac un achos posib yng Ngroeg.