Roedd trigolion Hawaii wedi cael rhybudd “ar gam” i chwilio am loches yn dilyn adroddiadau bod taflegrau ar eu ffordd at yr ynys.

Cafodd y rhybudd ei anfon at ffonau symudol toc ar ôl 8 o’r gloch y bore yn dweud wrth bobol am “chwilio am loches ar unwaith”, gan ychwanegu, “Nid dril mo hwn”.

Ond mae’r awdurdodau’n cynnal ymchwiliad i geisio darganfod pam y cafodd y rhybudd ei anfon ar ôl i’r Pentagon a nifer o asiantaethau eraill ddweud nad oedd perygl o ymosodiad.

Roedd oedi yng nghystadleuaeth golff Taith y PGA yn dilyn y rhybudd, ac fe gafodd nifer o fusnesau eu heffeithio gan y newyddion.

Beirniadu

Mae Seneddwr Hawaii, Brian Schatz wedi dweud bod y gwall yn “hollol anesgusodol”, a bod angen “atebolrwydd ar frys”.

Ychwanegodd Seneddwr Hawaii, David Ige fod “rhaid i’r cyhoedd allu ymddiried yn ein system negeseuon brys”.

Cafodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wybod am y digwyddiad.