Mae Donald Trump ‘mewn iechyd rhagorol’ yn ôl meddyg y Tŷ Gwyn a wnaeth archwiliad meddygol o’r arlywydd ddoe.

Roedd yr archwiliad yn dilyn cwestiynau cynyddol am addasrwydd corfforol a meddyliol Donald Trump ar gyfer y swydd.

Yn dilyn honiadau yn llyfr Michael Wolff, ‘Fire and Fury: Inside the Trump White House’ fod yr arlywydd yn ansefydlog yn feddyliol, roedd Donald Trump wedi disgrifio’i hun fel ‘athrylith sefydlog iawn’.

Archwiliad corfforol yn unig a gafodd ddoe, and nid yw’r Tŷ Gwyn wedi cyhoeddi canlyniadau manwl am y profion eto.