Parhau mae’r ymdrechion i chwilio am bump o bobol sydd ar goll yn ne California ar ôl i 18 o bobol gael eu lladd mewn llithriadau mwd dros y dyddiau diwethaf.

Mae 1,200 o weithwyr yn helpu clirio’r mwd, coed a chregiau ac atgyweirio cyflenwadau dŵr a thrydan yn nhref Montecito ar gyrion Los Angeles.

Mae’r criwiau achub a chŵn yn chwilio drwy’r mwd trwchus, ceunentydd dwfn a choed am y bobol sydd ar goll.

Mae’r trigolion sy’n ddiogel wedi cael eu gorchymyn i adael eu cartrefi am hyd at bythefnos fel na fyddan nhw’n ymyrryd â’r gwaith o achub ac adfer.

Fe wnaeth y dref ddioddef yn ddrwg hefyd o’r tanau gwaethaf yn hanes California y misoedd diwethaf. Y tanau hyn, i raddau helaeth, sy’n gyfrifol am y llithriadau mwd gan eu bod wedi dinoethi’r llethrau cyfagos o goed.