Mae grŵp ceidwadol Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, a’r blaid chwith-canol, y Democratiaid Cymdeithasol, wedi cytuno ar delerau fydd yn sail i drafodaethau ar sefydlu clymblaid i lywodraethu’r wlad.

Yn ôl tîm Angela Merkel o blaid y Democratiaid Cristnogol, mae “llawer iawn o oriau a dadlau difrifol” wedi mynd i lunio’r telerau yn y ddogfen 28 tudalen.

Daw’r cytundeb yn dilyn sesiynau trafod ym Merlin a barhaodd am dros 24 awr, gan ddod ag wythnos gyfan o drafod i ben.

Yn dilyn yr etholiad ar Fedi 24, yr unig opsiynau i’r Canghellor yw sefydlu clymblaid, ffurfio llywodraeth leiafrifol neu gynnal etholiad arall.

Roedd y Democratiaid Cymdeithasol wedi gwrthod clymblaid arall gydag Angela Merkel i ddechrau, ond bu iddyn nhw ail-feddwl ar ôl i’r Canghellor fethu â dod i gytundeb â dwy blaid arall.