Mae heddlu yn Tiwnisia wedi arestio 328 o bobol, ac wedi tanio nwy dagrau, wrth i brotestwyr daflu cerrig a theiars llosg yn ystod gwrthdystiadau am gynnydd mewn costau byw.

Mae protestiadau diwedd pnawn Mercher yn ymddangos yn llai treisgar na’r nosweithiau blaenorol, wrth i luoedd diogelwch gael eu hanfon i ganol y tyrfaoedd mewn sawl tref a dinas.

Mae’r rheiny sydd wedi’u harestio wedi cael eu dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o ddinistrio eiddo, lladrata ac ysbeilio.

Yn ol adroddiadau ar orsaf radio Mosaique, mae 21 o blismyn wedi’u hanafu yn ystod y gwrthdaro rhwng protestwyr a’r heddlu. Doedd yna ddim rhif ar gyfer nifer y gwrthdystwyr sydd wedi’u brifo.

Mae llywodraeth Tiwnisia wedi cyhuddo ei gelynion gwleidyddol o annog y trais, ac mae wedi amddiffyn y cynnydd amhoblogaidd mewn prisiau, gan ddweud eu bod yn rhoi hwb i’r economi.