Arweiniodd dadl seneddol ar lygredd y byd gwleidyddol yn Sri Lanca at ffrwgwd yn senedd y wlad heddiw.
Cynhaliodd yr wrthblaid brotest wrth i’r Prif Weinidog Ranil Wickremesinghe annerch y senedd ar y mater.
Cafodd y llywodraeth bresennol ei hethol ar sail addewid i fynd i’r afael â llygredd ariannol ymhlith y llywodraeth flaenorol.
Yn ôl ymchwiliad diweddar, roedd mab yng nghyfraith cyn-lywodraethwr banc canolog y wlad wedi elwa o wybodaeth ariannol a gafodd ei datgelu’n gudd. Mae lle i gredu ei fod e wedi derbyn 72 miliwn o ddoleri.
Mae cyn-weinidog cyllid y wlad yn wynebu cyhuddiadau yn sgil y mater ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi gallu byw mewn fflat crand oedd yn cael ei ariannu gan fab yng nghyfraith y cyn-lywodraethwr.
Roedd yr wrthblaid yn ddig am nad oedden nhw wedi derbyn adroddiad yr ymchwiliad, ac fe gerddon nhw i mewn i siambr y senedd yn bloeddio sloganau ac yn cario placardiau.
Roedd oddeutu 50 o wleidyddion ynghlwm wrth y ffrwgwd, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a gafodd unrhyw un ei anafu. Cafodd crysau rhai o’r gwleidyddion eu rhwygo.