Mae Catalwnia wedi sicrhau cytundeb i ail-ethol Carles Puigdemont yn arlywydd.

Fe fu’n alltud ym Mrwsel ers mis Hydref, pan gafodd ei ddiswyddo gan Lywodraeth Sbaen yn dilyn refferendwm annibyniaeth oedd yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.

Serch hynny, mae’n wynebu cael ei arestio pe bai’n dychwelyd i Gatalwnia.

Ond dywedodd llefarydd ar ran ei blaid ei fod e wedi sicrhau cefnogaeth y blaid weriniaethol ar yr asgell chwith neithiwr.

Mae disgwyl i Carles Puigdemont annerch senedd Catalwnia drwy gyswllt fideo yn ddiweddarach y mis yma, neu ofyn i gydweithiwr ddarllen anerchiad buddugoliaeth ar ei ran – araith sy’n orfodol i unrhyw un sy’n ennill mewn etholiad.