Mae ofnau bod cymaint â 64 o ffoaduriaid o Affrica wedi marw ar ôl i gwch dinghi gorlawn suddo yn y Môr Canoldir.

Ymhlith y rhai a gafodd eu boddi y mae mam â phlentyn tair oed.

Fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw o’r Eidal i achub 86 o bobol a oedd yn teithio o Libya.

Yn ôl y rheiny sydd wedi goroesi, roedd 150 o bobol ar y dinghi pan oedd yn gadael o draeth i’r dwyrain o Tripoli.