Cafodd Gwasanaeth Tân Efrog Newydd eu galw i dân yn Trump Tower ym Manhattan, Efrog Newydd heddiw.
Daeth adroddiadau i law bod fflamau ar lawr uchaf yr adeilad am 7yb, amser lleol (canol dydd GMT).
Roedd golygfeydd o’r awyr yn dangos diffoddwyr tân ar y to. Nid oes adroddiadau bod unrhyw un wedi’u hanafu.
Roedd tua 84 o ddiffoddwyr tân wedi cael eu galw i’r lleoliad ond mae’n debyg eu bod nhw wedi llwyddo i ddod a’r fflamau dan reolaeth erbyn hyn.
Mae’r adeilad yn cynnwys fflatiau moethus a nifer o fusnesau.