Mae’r rhai a gafodd eu lladd mewn ymosodiadau ar swyddfeydd Charlie Hebdo ac archfarchnad Iddewig ym Mharis yn cael eu cofio heddiw, dair blynedd union ers y gyflafan.

Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi talu teyrnged i’r 17 o bobol a gafodd eu lladd.

Ymosododd eithafwyr Islamaidd ar swyddfeydd y cylchgrawn dychanol a’r archfarchnad kosher ar Ionawr 7, 2015.

Cafodd torchau o flodau eu gosod ger swyddfeydd Charlie Hebdo gan Faeres Paris, Anne Hidalgo, yr Arlywydd a phrif olygydd Charlie Hebdo, Laurent Sourisseau.

Ymosodiadau

Roedd cartwnydd y cylchgrawn dychanol wedi sarhau Mwslimiaid gyda darlun o’r proffwyd Mohammed cyn i Cherif a Said Kouachi ladd 11 o bobol yn eu swyddfa, cyn lladd plismon ar y stryd.

Yn dilyn yr ymosodiad hwnnw, cafodd plismones ei lladd ar y stryd gan Amedy Coulibaly cyn iddo ladd pedwar o wystlon yn yr archfarchnad.

Cafodd y tri ymosodwr eu saethu’n farw gan yr heddlu.