Mae Donald Trump wedi dweud bod llyfr newydd dadleuol am flwyddyn gyntaf ei weinyddiaeth yn “llawn celwyddau a chamddehongliadau a ffynonellau sydd ddim yn bodoli.”

Daeth sylwadau Arlywydd yr Unol Daleithiau ar Twitter ddiwrnod cyn i’r llyfr Fire and Fury: Inside the Trump White House gael ei gyhoeddi.

Er nad oedd Donald Trump wedi cyfeirio at awdur y llyfr, Michael Wolff, wrth ei enw mae’n honni nad oedd wedi cael mynediad i’r Tŷ Gwyn a’i fod wedi “ei wrthod sawl gwaith.”

Mae hefyd yn beirniadu sylwadau sydd wedi cael eu gwneud yn y llyfr gan gyn-aelod o staff y Tŷ Gwyn, Steve Bannon.

Mae cyhoeddwyr y llyfr wedi dweud y byddan nhw’n ei ryddhau heddiw, bedwar diwrnod yn gynt na’r disgwyl oherwydd y galw amdano.