Mae dyn o’r grefydd Baha’i wedi’i ddedfrydu i farwolaeth mewn llys yn Yemen ar gyhuddiadau o ledaenu ei ffydd ac o ysbïo dros Israel.

Cafodd Hamid bin Haydara, sydd wedi’i garcharu ers mis Rhagfyr 2013, ei ddedfrydu dydd Mawrth mewn llys sydd wedi’i reoli gan rebeliaid yng nghanol y rhyfel cartref sydd wedi rhwygo’r wlad.

Mae elusen Amnest Rhyngwladol wedi galw ar awdurdodau Yemen i ddileu’r ddedfryd “greulon” yn syth.

Mae’r rebeliaid Shïaidd, sy’n cael eu hadnabod fel Houthis a’u cefnogi gan Iran, wedi bod yn rheoli’r brifddinas, Sannaa, ers ei chipio yn 2014.

Maen nhw wedi bod mewn rhyfel â chlymblaid wedi’i harwain gan Sawdi Arabia, sy’n cefnogi llywodraeth y wlad ers mis Mawrth 2015.

Cafodd y grefydd Baha’i ei sefydlu yn Iran yn 1844 ond mae wedi’i gwahardd ar hyn o bryd. Mae Israel yn gartref i rai o’i safleoedd sanctaidd.