Mae bellach yn orfodol i gwmnïau yng Ngwlad yr Iâ brofi nad ydyn nhw’n gwahaniaethu yn erbyn menywod wrth dalu cyflogau eu gweithwyr.

Cafodd y ddeddf newydd ei phasio â mwyafrif mawr yn y senedd yn Reykjavik ym mis Mehefin 2017, ac mae wedi bod yn weithredol ers Ionawr 1 eleni.

Y bwriad yw cael gwared ar y bwlch rhwng cyflog dynion a menywod er gwaethaf deddfau ar gydraddoldeb a gafodd eu cyflwyno’n gyntaf yn 1961.

Bydd rhaid i gwmnïau sydd a mwy na 25 o weithwyr ennill tystysgrif gan archwilydd trwyddedig sy’n dangos eu bod yn talu cyflogau ar sail ffactorau teg fel addysg, sgiliau a pherfformiad.

Mae gan gwmnïau mawr â dros 250 o weithwyr tan ddiwedd y flwyddyn i gael y dystysgrif, tra bod gan y cwmnïau llai o faint tan ddiwedd 2021.