Mae Donald Trump wedi ymosod ar ei gyn-brif strategydd trwy ddweud ei fod wedi “colli ei feddwl” ac nad oes ganddo “ddim i’w wneud â’i arlywyddiaeth”.

Daw’r sylwadau hyn wedi i Steve Bannon, a gafodd ei ddiswyddo yn Awst 2016, gyfrannu at lyfr newydd sy’n creu darlun negyddol o Donald Trump.

Yn y llyfr, sef Excerpts of Fire and Fury: Inside the Trump White House gan Michael Wolff, mae Steve Bannon yn cyfeirio at y cyfarfod a fu rhwng Donald Trump Jr a’r Rwsiaid ym Mehefin 2016 fel digwyddiad “teyrnfradwrol” ac anwladgarol”.

Yn dilyn datganiad Donald Trump, mae cyfreithwr yr arlywydd wedi bygwth dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cyn-strategydd am wneud datganiadau “difenwol” a “gwawdlyd”.

Mae’r llythyr hefyd yn mynnu ei fod yn “oedi” rhag datgelu rhagor o wybodaeth gyfrinachol.