Mae Norwy wedi rhoi’r gorau i werthu arfau i’r Emiradau Arabaidd Unedig am y tro, a hynny ar ôl asesu’r hyn sy’n digwydd yn Yemen, lle mae Sawdi Arabia wedi bod yn ymladd Mwslimiaid Shïaidd ers dros dair blynedd.

Mae’r Emiradau Arabaidd Unedig yn un o gynghreiriaid Sawdi Arabia.

Yn ôl gweinidog tramor Norwy, Ine Eriksen Soreide, does ganddi ddim prawf o gwbwl fod arfau sydd wedi’u hallforio o Sgandinafia wedi’u defnyddio yn Yemen… ond mae’n cydnabod “gofid mawr” tros y creisis dyngarol yn Yemen.

Ers 2010, meddai Ine Eriksen Soreide, mae Norwy wedi bod yn gwerthu arfau a bwledi i’r Emoradau Arabaidd Unedig.

Mae’r rhyfel yn Yemen wedi lladd mwy na 10,000 o bobol ddiniwed, ac wedi gorfodi miliynau o’u cartrefi ac wedi achosi newyn yn y wlad.